Hen Destament

Testament Newydd

Luc 15:28-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Digiodd ef, a gwrthod mynd i mewn. Daeth ei dad allan a'i gymell yn daer i'r tŷ,

29. ond atebodd ef, ‘Yr holl flynyddoedd hyn bûm yn was bach iti, heb anufuddhau erioed i'th orchymyn. Ni roddaist erioed i mi gymaint â myn gafr, imi gael gwledda gyda'm cyfeillion.

30. Ond pan ddychwelodd hwn, dy fab sydd wedi difa dy eiddo gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo oedd wedi ei besgi.’

31. ‘Fy mhlentyn,’ meddai'r tad wrtho, ‘yr wyt ti bob amser gyda mi, ac y mae'r cwbl sydd gennyf yn eiddo i ti.

32. Yr oedd yn rhaid gwledda a llawenhau, oherwydd yr oedd hwn, dy frawd, wedi marw, a daeth yn fyw; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 15