Hen Destament

Testament Newydd

Luc 15:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Dywedodd yr ieuengaf ohonynt wrth ei dad, ‘Fy nhad, dyro imi'r gyfran o'th ystad sydd i ddod imi.’ A rhannodd yntau ei eiddo rhyngddynt.

13. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, wedi newid y cwbl am arian, ymfudodd y mab ieuengaf i wlad bell, ac yno gwastraffodd ei eiddo ar fyw'n afradlon.

14. Pan oedd wedi gwario'r cyfan, daeth newyn enbyd ar y wlad honno, a dechreuodd yntau fod mewn eisiau.

15. Aeth ac ymlynu wrth un o ddinasyddion y wlad, ac anfonodd hwnnw ef i'w gaeau i ofalu am y moch.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 15