Hen Destament

Testament Newydd

Luc 14:25-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Yr oedd tyrfaoedd niferus yn teithio gydag ef, a throes a dweud wrthynt,

26. “Os daw rhywun ataf fi heb gasáu ei dad ei hun, a'i fam a'i wraig a'i blant a'i frodyr a'i chwiorydd, a hyd yn oed ei fywyd ei hun, ni all fod yn ddisgybl imi.

27. Pwy bynnag nad yw'n cario ei groes ei hun ac yn dod ar fy ôl i, ni all fod yn ddisgybl imi.

28. Oherwydd os bydd un ohonoch chwi yn dymuno adeiladu tŵr, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i gyfrif y gost, er mwyn gweld a oes ganddo ddigon i gwblhau'r gwaith?

29. Onid e, fe all ddigwydd iddo osod y sylfaen ac wedyn fethu gorffen, nes bod pawb sy'n gwylio yn mynd ati i'w watwar

30. gan ddweud, ‘Dyma rywun a ddechreuodd adeiladu ac a fethodd orffen.’

31. Neu os bydd brenin ar ei ffordd i ryfela yn erbyn brenin arall, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i ystyried a all ef, â deng mil o filwyr, wrthsefyll un sy'n ymosod arno ag ugain mil?

32. Os na all, bydd yn anfon llysgenhadon i geisio telerau heddwch tra bo'r llall o hyd ymhell i ffwrdd.

33. Yr un modd, gan hynny, ni all neb ohonoch nad yw'n ymwrthod â'i holl feddiannau fod yn ddisgybl i mi.

34. “Peth da yw halen. Ond os cyll yr halen ei hun ei flas, â pha beth y rhoddir blas arno?

35. Nid yw'n dda i'r pridd nac i'r domen; lluchir ef allan. Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 14