Hen Destament

Testament Newydd

Luc 14:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Ac yno ger ei fron yr oedd dyn â'r dropsi arno.

3. A llefarodd Iesu wrth athrawon y Gyfraith a'r Phariseaid, gan ddweud, “A yw'n gyfreithlon iacháu ar y Saboth, ai nid yw?”

4. Ond ni ddywedasant hwy ddim. Yna cymerodd y claf a'i iacháu a'i anfon ymaith.

5. Ac meddai wrthynt, “Pe bai mab neu ych unrhyw un ohonoch yn syrthio i bydew, oni fyddech yn ei dynnu allan ar unwaith, hyd yn oed ar y dydd Saboth?”

6. Ni allent gynnig unrhyw ateb i hyn.

7. Yna adroddodd ddameg wrth y gwesteion, wrth iddo sylwi sut yr oeddent yn dewis y seddau anrhydedd:

8. “Pan wahoddir di gan rywun i wledd briodas, paid â chymryd y lle anrhydedd, rhag ofn ei fod wedi gwahodd rhywun amlycach na thi;

9. oherwydd os felly, daw'r sawl a'ch gwahoddodd chwi'ch dau a dweud wrthyt, ‘Rho dy le i hwn’, ac yna byddi dithau mewn cywilydd yn cymryd y lle isaf.

10. Yn hytrach, pan wahoddir di, dos a chymer y lle isaf, fel pan ddaw'r gwahoddwr y dywed wrthyt, ‘Gyfaill, tyrd yn uwch’; yna dangosir parch iti yng ngŵydd dy holl gyd-westeion.

11. Oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.”

12. Meddai hefyd wrth ei wahoddwr, “Pan fyddi'n trefnu cinio neu swper, paid â gwahodd dy gyfeillion na'th frodyr na'th berthnasau na'th gymdogion cyfoethog, rhag ofn iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac iti gael dy ad-dalu.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 14