13. Meddai rhywun o'r dyrfa wrtho, “Athro, dywed wrth fy mrawd am roi i mi fy nghyfran o'n hetifeddiaeth.”
14. Ond meddai ef wrtho, “Ddyn, pwy a'm penododd i yn farnwr neu yn gymrodeddwr rhyngoch?”
15. A dywedodd wrthynt, “Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau.”
16. Ac adroddodd ddameg wrthynt: “Yr oedd tir rhyw ŵr cyfoethog wedi dwyn cnwd da.
17. A dechreuodd feddwl a dweud wrtho'i hun, ‘Beth a wnaf fi, oherwydd nid oes gennyf unman i gasglu fy nghnydau iddo?’
18. Ac meddai, ‘Dyma beth a wnaf fi: tynnaf f'ysguboriau i lawr ac adeiladu rhai mwy, a chasglaf yno fy holl ŷd a'm heiddo.
19. Yna dywedaf wrthyf fy hun, “Ddyn, y mae gennyt stôr o lawer o bethau ar gyfer blynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.” ’
20. Ond meddai Duw wrtho, ‘Yr ynfytyn, heno y mynnir dy einioes yn ôl gennyt, a phwy gaiff y pethau a baratoaist?’