Hen Destament

Testament Newydd

Luc 11:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd ef yn gweddïo mewn rhyw fan, ac wedi iddo orffen dywedodd un o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan yntau i'w ddisgyblion ef.”

2. Ac meddai wrthynt, “Pan weddïwch, dywedwch:“ ‘Dad, sancteiddier dy enw;deled dy deyrnas;

3. dyro inni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol;

4. a maddau inni ein pechodau,oherwydd yr ydym ninnau yn maddau i bob un sy'n troseddu yn ein herbyn;a phaid â'n dwyn i brawf.’ ”

5. Yna meddai wrthynt, “Pe bai un ohonoch yn mynd at gyfaill ganol nos ac yn dweud wrtho, ‘Gyfaill, rho fenthyg tair torth imi,

6. oherwydd y mae cyfaill imi wedi cyrraedd acw ar ôl taith, ac nid oes gennyf ddim i'w osod o'i flaen’;

7. a phe bai yntau yn ateb o'r tu mewn, ‘Paid â'm blino; y mae'r drws erbyn hyn wedi ei folltio, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi i roi dim iti’,

8. rwy'n dweud wrthych, hyd yn oed os gwrthyd ef godi a rhoi rhywbeth iddo o achos eu cyfeillgarwch, eto oherwydd ei daerni digywilydd fe fydd yn codi ac yn rhoi iddo gymaint ag sydd arno ei eisiau.

9. Ac yr wyf fi'n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.

10. Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.

11. Os bydd mab un ohonoch yn gofyn i'w dad am bysgodyn, a rydd ef iddo sarff yn lle pysgodyn?

12. Neu os bydd yn gofyn am wy, a rydd ef iddo ysgorpion?

13. Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd y Tad nefol yr Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn ganddo.”

14. Yr oedd yn bwrw allan gythraul, a hwnnw'n un mud. Ac wedi i'r cythraul fynd allan, llefarodd y mudan. Synnodd y tyrfaoedd,

15. ond meddai rhai ohonynt, “Trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid, y mae'n bwrw allan gythreuliaid.”

16. Yr oedd eraill am ei brofi, a gofynasant am arwydd ganddo o'r nef.

17. Ond yr oedd ef yn deall eu meddyliau hwy, ac meddai wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, a'r tai yn cwympo ar ben ei gilydd.

18. Ac os yw Satan yntau wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, sut y saif ei deyrnas?—gan eich bod chwi'n dweud mai trwy Beelsebwl yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid.

19. Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 11