Hen Destament

Testament Newydd

Luc 10:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. “Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaethpwyd ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm, gan eistedd mewn sachliain a lludw.

14. Eto, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn y Farn na chwi.

15. A thithau, Capernaum,“ ‘A ddyrchefir di hyd nef?Byddi'n disgyn hyd Hades.’

16. “Y mae'r sawl sy'n gwrando arnoch chwi yn gwrando arnaf fi, a'r sawl sy'n eich anwybyddu chwi yn f'anwybyddu i; ac y mae'r sawl sy'n f'anwybyddu i yn anwybyddu'r hwn a'm hanfonodd i.”

17. Dychwelodd y deuddeg a thrigain yn llawen, gan ddweud, “Arglwydd, y mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ymddarostwng inni yn dy enw di.”

18. Meddai wrthynt, “Yr oeddwn yn gweld Satan fel mellten yn syrthio o'r nef.

19. Dyma fi wedi rhoi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac i drechu holl nerth y gelyn; ac ni'ch niweidir chwi gan ddim.

20. Eto, peidiwch â llawenhau yn hyn, fod yr ysbrydion yn ymddarostwng i chwi; llawenhewch oherwydd fod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.”

21. Yr awr honno gorfoleddodd yn yr Ysbryd Glân, ac meddai, “Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain; ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di.

22. Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Ni ŵyr neb pwy yw'r Mab ond y Tad, na phwy yw'r Tad ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt.”

23. Yna troes at ei ddisgyblion ac meddai wrthynt o'r neilltu, “Gwyn eu byd y llygaid sy'n gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld.

24. Oherwydd rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi dymuno gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.”

Darllenwch bennod gyflawn Luc 10