Hen Destament

Testament Newydd

Luc 1:57-64 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

57. Am Elisabeth, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, a ganwyd iddi fab.

58. Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau am drugaredd fawr yr Arglwydd iddi, ac yr oeddent yn llawenychu gyda hi.

59. A'r wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei enwi ar ôl ei dad, Sachareias.

60. Ond atebodd ei fam, “Nage, Ioan yw ei enw i fod.”

61. Meddent wrthi, “Nid oes neb o'th deulu â'r enw hwnnw arno.”

62. Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi.

63. Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, “Ioan yw ei enw.” A synnodd pawb.

64. Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 1