Hen Destament

Testament Newydd

Luc 1:3-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. penderfynais innau, gan fy mod wedi ymchwilio yn fanwl i bopeth o'r dechreuad, eu hysgrifennu i ti yn eu trefn, ardderchocaf Theoffilus,

4. er mwyn iti gael sicrwydd am y wybodaeth a dderbyniaist.

5. Yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o'r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth.

6. Yr oeddent ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn ymddwyn yn ddi-fai yn ôl holl orchmynion ac ordeiniadau'r Arglwydd.

7. Nid oedd ganddynt blant, oherwydd yr oedd Elisabeth yn ddiffrwyth, ac yr oeddent ill dau wedi cyrraedd oedran mawr.

8. Ond pan oedd Sachareias a'i adran, yn eu tro, yn gweinyddu fel offeiriaid gerbron Duw,

9. yn ôl arferiad y swydd, daeth i'w ran fynd i mewn i gysegr yr Arglwydd ac offrymu'r arogldarth;

10. ac ar awr yr offrymu yr oedd holl dyrfa'r bobl y tu allan yn gweddïo.

11. A dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo, yn sefyll ar yr ochr dde i allor yr arogldarth;

12. a phan welodd Sachareias ef, fe'i cythryblwyd a daeth ofn arno.

13. Ond dywedodd yr angel wrtho, “Paid ag ofni, Sachareias, oherwydd y mae dy ddeisyfiad wedi ei wrando; bydd dy wraig Elisabeth yn esgor ar fab i ti, a gelwi ef Ioan.

14. Fe gei lawenydd a gorfoledd, a bydd llawer yn llawenychu o achos ei enedigaeth ef;

15. oherwydd mawr fydd ef gerbron yr Arglwydd, ac nid yf win na diod gadarn byth; llenwir ef â'r Ysbryd Glân, ie, yng nghroth ei fam,

16. ac fe dry lawer o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Luc 1