Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 9:35-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. Clywodd Iesu eu bod wedi ei daflu allan, a phan gafodd hyd iddo gofynnodd iddo, “A wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?”

36. Atebodd yntau, “Pwy yw ef, syr, er mwyn imi gredu ynddo?”

37. Meddai Iesu wrtho, “Yr wyt wedi ei weld ef. Yr un sy'n siarad â thi, hwnnw yw ef.”

38. “Yr wyf yn credu, Arglwydd,” meddai'r dyn, gan ymgrymu o'i flaen.

39. A dywedodd Iesu, “I farnu y deuthum i i'r byd hwn, er mwyn i'r rhai nad ydynt yn gweld gael gweld, ac i'r rhai sydd yn gweld fynd yn ddall.”

40. Clywodd rhai o'r Phariseaid oedd yno gydag ef hyn, ac meddent wrtho, “A ydym ni hefyd yn ddall?”

41. Atebodd Iesu hwy: “Pe baech yn ddall, ni byddai gennych bechod. Ond am eich bod yn awr yn dweud, ‘Yr ydym yn gweld’, y mae eich pechod yn aros.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 9