Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 9:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wrth fynd ar ei daith, gwelodd Iesu ddyn dall o'i enedigaeth.

2. Gofynnodd ei ddisgyblion iddo, “Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni'n ddall?”

3. Atebodd Iesu, “Ni phechodd hwn na'i rieni chwaith, ond fe amlygir gweithredoedd Duw ynddo ef.

4. Y mae'n rhaid i ni gyflawni gweithredoedd yr hwn a'm hanfonodd i tra mae hi'n ddydd. Y mae'r nos yn dod, pan na all neb weithio.

5. Tra byddaf yn y byd, goleuni'r byd ydwyf.”

6. Wedi dweud hyn poerodd ar y llawr a gwneud clai o'r poeryn; yna irodd lygaid y dyn â'r clai,

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 9