Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 7:20-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Atebodd y dyrfa, “Y mae cythraul ynot. Pwy sy'n ceisio dy ladd di?”

21. Meddai Iesu wrthynt, “Un weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu o'r herwydd.

22. Rhoddodd Moses i chwi ddefod enwaediad—er nad gyda Moses y cychwynnodd ond gyda'r patriarchiaid—ac yr ydych yn enwaedu ar blentyn ar y Saboth.

23. Os enwaedir ar blentyn ar y Saboth rhag torri Cyfraith Moses, a ydych yn ddig wrthyf fi am imi iacháu holl gorff rhywun ar y Saboth?

24. Peidiwch â barnu yn ôl yr olwg, ond yn ôl safonau barn gyfiawn.”

25. Yna dechreuodd rhai o drigolion Jerwsalem ddweud, “Onid hwn yw'r dyn y maent yn ceisio ei ladd?

26. A dyma fe'n siarad yn agored heb i neb ddweud dim yn ei erbyn. Tybed a yw'r llywodraethwyr wedi dod i wybod i sicrwydd mai hwn yw'r Meseia?

27. Ac eto, fe wyddom ni o ble y mae'r dyn yma'n dod; ond pan ddaw'r Meseia, ni bydd neb yn gwybod o ble y mae'n dod.”

28. Ar hynny, cyhoeddodd Iesu'n uchel, wrth ddysgu yn y deml, “Yr ydych yn f'adnabod i ac yn gwybod o ble rwy'n dod. Ond nid wyf wedi dod ohonof fy hun. Y mae'r hwn a'm hanfonodd i â'i hanfod yn wirionedd, ond nid ydych chwi'n ei adnabod ef.

29. Yr wyf fi'n ei adnabod ef, oherwydd oddi wrtho ef y deuthum, ac ef a'm hanfonodd.”

30. Am hynny ceisiasant ei ddal, ond ni osododd neb law arno, oherwydd nid oedd ei awr ef wedi dod eto.

31. Credodd llawer o blith y dyrfa ynddo, ac meddent, “A fydd y Meseia, pan ddaw, yn gwneud mwy o arwyddion nag a wnaeth y dyn hwn?”

32. Clywodd y Phariseaid y dyrfa'n sibrwd y pethau hyn amdano. Ac fe anfonodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid swyddogion i'w ddal ef.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 7