Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar ôl hyn aeth Iesu ymaith ar draws Môr Galilea (hynny yw, Môr Tiberias).

2. Ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn, oherwydd yr oeddent wedi gweld yr arwyddion yr oedd wedi eu gwneud ar y cleifion.

3. Aeth Iesu i fyny'r mynydd ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion.

4. Yr oedd y Pasg, gŵyl yr Iddewon, yn ymyl.

5. Yna cododd Iesu ei lygaid a gwelodd fod tyrfa fawr yn dod tuag ato, ac meddai wrth Philip, “Ble y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6