Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 6:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar ôl hyn aeth Iesu ymaith ar draws Môr Galilea (hynny yw, Môr Tiberias).

2. Ac yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn, oherwydd yr oeddent wedi gweld yr arwyddion yr oedd wedi eu gwneud ar y cleifion.

3. Aeth Iesu i fyny'r mynydd ac eistedd yno gyda'i ddisgyblion.

4. Yr oedd y Pasg, gŵyl yr Iddewon, yn ymyl.

5. Yna cododd Iesu ei lygaid a gwelodd fod tyrfa fawr yn dod tuag ato, ac meddai wrth Philip, “Ble y gallwn brynu bara i'r rhain gael bwyta?”

6. Dweud hyn yr oedd i roi prawf arno, oherwydd gwyddai ef ei hun beth yr oedd yn mynd i'w wneud.

7. Atebodd Philip ef, “Ni byddai bara gwerth dau gant o ddarnau arian yn ddigon i roi tamaid bach i bob un ohonynt.”

8. A dyma un o'i ddisgyblion, Andreas, brawd Simon Pedr, yn dweud wrtho,

9. “Y mae bachgen yma a phum torth haidd a dau bysgodyn ganddo, ond beth yw hynny rhwng cynifer?”

10. Dywedodd Iesu, “Gwnewch i'r bobl eistedd i lawr.” Yr oedd llawer o laswellt yn y lle, ac eisteddodd y dynion i lawr, rhyw bum mil ohonynt.

11. Yna cymerodd Iesu y torthau, ac wedi diolch fe'u rhannodd i'r rhai oedd yn eistedd. Gwnaeth yr un peth hefyd â'r pysgod, gan roi i bob un faint a fynnai.

12. A phan oeddent wedi cael digon, meddai wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sy'n weddill, rhag i ddim fynd yn wastraff.”

13. Fe'u casglasant, felly, a llenwi deuddeg basged â'r tameidiau yr oedd y bwytawyr wedi eu gadael yn weddill o'r pum torth haidd.

14. Pan welodd y bobl yr arwydd hwn yr oedd Iesu wedi ei wneud, dywedasant, “Hwn yn wir yw'r Proffwyd sy'n dod i'r byd.”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 6