7. Atebodd y claf ef, “Syr, nid oes gennyf neb i'm gosod yn y pwll pan ddaw cynnwrf i'r dŵr, a thra byddaf fi ar fy ffordd bydd rhywun arall yn mynd i mewn o'm blaen i.”
8. Meddai Iesu wrtho, “Cod, cymer dy fatras a cherdda.”
9. Ac ar unwaith yr oedd y dyn wedi gwella, a chymerodd ei fatras a dechrau cerdded.Yr oedd yn Saboth y dydd hwnnw.
10. Dywedodd yr Iddewon felly wrth y dyn oedd wedi ei iacháu, “Y Saboth yw hi; nid yw'n gyfreithlon iti gario dy fatras.”
11. Atebodd yntau hwy, “Y dyn hwnnw a'm gwellodd a ddywedodd wrthyf, ‘Cymer dy fatras a cherdda.’ ”
12. Gofynasant iddo, “Pwy yw'r dyn a ddywedodd wrthyt, ‘Cymer dy fatras a cherdda’?”
13. Ond nid oedd y dyn a iachawyd yn gwybod pwy oedd ef, oherwydd yr oedd Iesu wedi troi oddi yno, am fod tyrfa yn y lle.
14. Maes o law daeth Iesu o hyd i'r dyn yn y deml, ac meddai wrtho, “Dyma ti wedi gwella. Paid â phechu mwyach, rhag i rywbeth gwaeth ddigwydd iti.”
15. Aeth y dyn i ffwrdd a dywedodd wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y dyn a'i gwellodd.
16. A dyna pam y dechreuodd yr Iddewon erlid Iesu, am ei fod yn gwneud y pethau hyn ar y Saboth.