Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 5:36-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy na'r eiddo Ioan, oherwydd y gweithredoedd a roes y Tad i mi i'w cyflawni, yr union weithredoedd yr wyf yn eu gwneud, y rhain sy'n tystiolaethu amdanaf fi mai'r Tad sydd wedi fy anfon.

37. A'r Tad a'm hanfonodd i, y mae ef ei hun wedi tystiolaethu amdanaf fi. Nid ydych chwi erioed wedi clywed ei lais na gweld ei wedd,

38. ac nid oes gennych mo'i air ef yn aros ynoch, oherwydd nid ydych chwi'n credu'r hwn a anfonodd ef.

39. Yr ydych yn chwilio'r Ysgrythurau oherwydd tybio yr ydych fod ichwi fywyd tragwyddol ynddynt hwy. Ond tystiolaethu amdanaf fi y mae'r rhain;

40. eto ni fynnwch ddod ataf fi i gael bywyd.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 5