Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 5:31-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. “Os wyf fi'n tystiolaethu amdanaf fy hun, nid yw fy nhystiolaeth yn wir.

32. Y mae un arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, ac mi wn mai gwir yw'r dystiolaeth y mae ef yn ei thystio amdanaf.

33. Yr ydych chwi wedi anfon at Ioan, ac y mae gennych dystiolaeth ganddo ef i'r gwirionedd.

34. Nid dynol yw'r dystiolaeth amdanaf, ond rwy'n dweud hyn er mwyn i chwi gael eich achub:

35. Cannwyll oedd Ioan, yn llosgi ac yn llewyrchu, a buoch chwi'n fodlon gorfoleddu dros dro yn ei oleuni ef.

36. Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy na'r eiddo Ioan, oherwydd y gweithredoedd a roes y Tad i mi i'w cyflawni, yr union weithredoedd yr wyf yn eu gwneud, y rhain sy'n tystiolaethu amdanaf fi mai'r Tad sydd wedi fy anfon.

37. A'r Tad a'm hanfonodd i, y mae ef ei hun wedi tystiolaethu amdanaf fi. Nid ydych chwi erioed wedi clywed ei lais na gweld ei wedd,

38. ac nid oes gennych mo'i air ef yn aros ynoch, oherwydd nid ydych chwi'n credu'r hwn a anfonodd ef.

39. Yr ydych yn chwilio'r Ysgrythurau oherwydd tybio yr ydych fod ichwi fywyd tragwyddol ynddynt hwy. Ond tystiolaethu amdanaf fi y mae'r rhain;

40. eto ni fynnwch ddod ataf fi i gael bywyd.

41. “Y clod yr wyf fi'n ei dderbyn, nid clod dynol mohono.

42. Ond mi wn i amdanoch chwi, nad oes gennych ddim cariad tuag at Dduw ynoch eich hunain.

43. Yr wyf fi wedi dod yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i; os daw rhywun arall yn ei enw ei hun, fe dderbyniwch hwnnw.

44. Sut y gallwch gredu, a chwithau yn derbyn clod gan eich gilydd a heb geisio'r clod sydd gan yr unig Dduw i'w roi?

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 5