Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 5:19-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Felly atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid yw'r Mab yn gallu gwneud dim ohono ei hun, dim ond yr hyn y mae'n gweld y Tad yn ei wneud. Beth bynnag y mae'r Tad yn ei wneud, hyn y mae'r Mab yntau yn ei wneud yr un modd.

20. Oherwydd y mae'r Tad yn caru'r Mab ac yn dangos iddo'r holl bethau y mae ef ei hun yn eu gwneud. Ac fe ddengys iddo weithredoedd mwy na'r rhain, i beri i chwi ryfeddu.

21. Oherwydd fel y mae'r Tad yn codi'r meirw ac yn rhoi bywyd iddynt, felly hefyd y mae'r Mab yntau yn rhoi bywyd i'r sawl a fyn.

22. Nid yw'r Tad chwaith yn barnu neb, ond y mae wedi rhoi pob hawl i farnu i'r Mab,

23. er mwyn i bawb roi i'r Mab yr un parch ag a rônt i'r Tad. O beidio â pharchu'r Mab, y mae rhywun yn peidio â pharchu'r Tad a'i hanfonodd ef.

24. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y sawl sy'n gwrando ar fy ngair i, ac yn credu'r hwn a'm hanfonodd i, yn meddu ar fywyd tragwyddol. Nid yw'n dod dan gondemniad; i'r gwrthwyneb, y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd.

25. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y meirw yn clywed llais Mab Duw, a'r rhai sy'n clywed yn cael bywyd.

26. Oherwydd fel y mae gan y Tad fywyd ynddo ef ei hun, felly hefyd rhoddodd i'r Mab gael bywyd ynddo ef ei hun.

27. Rhoddodd iddo hefyd awdurdod i weinyddu barn, am mai Mab y Dyn yw ef.

28. Peidiwch â rhyfeddu at hyn, oherwydd y mae amser yn dod pan fydd pawb sydd yn eu beddau yn clywed ei lais ef

29. ac yn dod allan; bydd y rhai a wnaeth ddaioni yn codi i fywyd, a'r rhai a wnaeth ddrygioni yn codi i gael eu barnu.

30. “Nid wyf fi'n gallu gwneud dim ohonof fy hun. Fel yr wyf yn clywed, felly yr wyf yn barnu, ac y mae fy marn i yn gyfiawn, oherwydd nid fy ewyllys i fy hun yr wyf yn ei cheisio, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd i.

31. “Os wyf fi'n tystiolaethu amdanaf fy hun, nid yw fy nhystiolaeth yn wir.

32. Y mae un arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, ac mi wn mai gwir yw'r dystiolaeth y mae ef yn ei thystio amdanaf.

33. Yr ydych chwi wedi anfon at Ioan, ac y mae gennych dystiolaeth ganddo ef i'r gwirionedd.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 5