Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Iesu a Nicodemus

1. Yr oedd dyn o blith y Phariseaid, o'r enw Nicodemus, aelod o Gyngor yr Iddewon.

2. Daeth hwn at Iesu liw nos a dweud wrtho, “Rabbi, fe wyddom iti ddod atom yn athro oddi wrth Dduw; ni allai neb wneud yr arwyddion hyn yr wyt ti'n eu gwneud oni bai fod Duw gydag ef.”

3. Atebodd Iesu ef: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o'r newydd ni all weld teyrnas Dduw.”

4. Meddai Nicodemus wrtho, “Sut y gall neb gael ei eni ac yntau'n hen? A yw'n bosibl, tybed, i rywun fynd i mewn i groth ei fam eilwaith a chael ei eni?”

5. Atebodd Iesu: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a'r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw.

6. Yr hyn sydd wedi ei eni o'r cnawd, cnawd yw, a'r hyn sydd wedi ei eni o'r Ysbryd, ysbryd yw.

7. Paid â rhyfeddu imi ddweud wrthyt, ‘Y mae'n rhaid eich geni chwi o'r newydd.’

8. Y mae'r gwynt yn chwythu lle y myn, ac yr wyt yn clywed ei sŵn, ond ni wyddost o ble y mae'n dod nac i ble y mae'n mynd. Felly y mae gyda phob un sydd wedi ei eni o'r Ysbryd.”

9. Dywedodd Nicodemus wrtho, “Sut y gall hyn fod?”

10. Atebodd Iesu ef: “A thithau yn athro Israel, a wyt heb ddeall y pethau hyn?

11. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt mai am yr hyn a wyddom yr ydym yn siarad, ac am yr hyn a welsom yr ydym yn tystiolaethu; ac eto nid ydych yn derbyn ein tystiolaeth.

12. Os nad ydych yn credu ar ôl imi lefaru wrthych am bethau'r ddaear, sut y credwch os llefaraf wrthych am bethau'r nef?

13. Nid oes neb wedi esgyn i'r nef ond yr un a ddisgynnodd o'r nef, Mab y Dyn.

14. Ac fel y dyrchafodd Moses y sarff yn yr anialwch, felly y mae'n rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu,

15. er mwyn i bob un sy'n credu gael bywyd tragwyddol ynddo ef.”

16. Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.

17. Oherwydd nid i gondemnio'r byd yr anfonodd Duw ei Fab i'r byd, ond er mwyn i'r byd gael ei achub trwyddo ef.

18. Nid yw neb sy'n credu ynddo ef yn cael ei gondemnio, ond y mae'r sawl nad yw'n credu wedi ei gondemnio eisoes, oherwydd ei fod heb gredu yn enw unig Fab Duw.

19. A dyma'r condemniad, i'r goleuni ddod i'r byd ond i ddynion garu'r tywyllwch yn hytrach na'r goleuni, am fod eu gweithredoedd yn ddrwg.

20. Oherwydd y mae pob un sy'n gwneud drwg yn casáu'r goleuni, ac nid yw'n dod at y goleuni rhag ofn i'w weithredoedd gael eu dadlennu.

21. Ond y mae'r sawl sy'n gwneud y gwirionedd yn dod at y goleuni, fel yr amlygir mai yn Nuw y mae ei weithredoedd wedi eu cyflawni.

Rhaid iddo Ef Gynyddu ac i Minnau Leihau

22. Ar ôl hyn aeth Iesu a'i ddisgyblion i wlad Jwdea, a bu'n aros yno gyda hwy ac yn bedyddio.

23. Yr oedd Ioan yntau yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim, am fod digonedd o ddŵr yno; ac yr oedd pobl yn dod yno ac yn cael eu bedyddio.

24. Nid oedd Ioan eto wedi ei garcharu.

25. Yna cododd dadl rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a rhyw Iddew ynghylch defod glanhad.

26. Daethant at Ioan a dweud wrtho, “Rabbi, y dyn hwnnw oedd gyda thi y tu hwnt i'r Iorddonen, yr un yr wyt ti wedi dwyn tystiolaeth iddo, edrych, y mae ef yn bedyddio a phawb yn dod ato ef.”

27. Atebodd Ioan: “Ni all neb dderbyn un dim os nad yw wedi ei roi iddo o'r nef.

28. Yr ydych chwi eich hunain yn dystion i mi, imi ddweud, ‘Nid myfi yw'r Meseia; un wedi ei anfon o'i flaen ef wyf fi.’

29. Y priodfab yw'r hwn y mae'r briodferch ganddo; y mae cyfaill y priodfab, sydd wrth ei ochr ac yn gwrando arno, yn fawr ei lawenydd wrth glywed llais y priodfab. Dyma fy llawenydd i yn ei gyflawnder.

30. Y mae'n rhaid iddo ef gynyddu ac i minnau leihau.”

Yr Hwn sy'n Dod o'r Nef

31. Y mae'r hwn sy'n dod oddi uchod goruwch pawb; y mae'r hwn sydd o'r ddaear yn ddaearol ei anian ac yn ddaearol ei iaith. Y mae'r sawl sy'n dod o'r nef goruwch pawb;

32. y mae'n tystiolaethu am yr hyn a welodd ac a glywodd, ond nid yw neb yn derbyn ei dystiolaeth.

33. Y mae'r sawl sydd yn derbyn ei dystiolaeth yn rhoi ei sêl ar fod Duw yn eirwir.

34. Oherwydd y mae'r hwn a anfonodd Duw yn llefaru geiriau Duw; nid wrth fesur y bydd Duw yn rhoi'r Ysbryd.

35. Y mae'r Tad yn caru'r Mab, ac y mae wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo ef.

36. Pwy bynnag sy'n credu yn y Mab, y mae bywyd tragwyddol ganddo; pwy bynnag sy'n anufudd i'r Mab, ni wêl fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno.