Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 21:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Gofynnodd iddo y drydedd waith, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?” Aeth Pedr yn drist am ei fod wedi gofyn iddo y drydedd waith, “A wyt ti'n fy ngharu i?” Ac meddai wrtho, “Arglwydd, fe wyddost ti bob peth, ac rwyt ti'n gwybod fy mod yn dy garu di.” Dywedodd Iesu wrtho, “Portha fy nefaid.

18. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, pan oeddit yn ifanc, yr oeddit yn dy wregysu dy hunan, ac yn mynd lle bynnag y mynnit. Ond pan fyddi'n hen, byddi'n estyn dy ddwylo i rywun arall dy wregysu, a mynd â thi lle nad wyt yn mynnu.”

19. Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth yr oedd Pedr i ogoneddu Duw trwyddi. Ac wedi iddo ddweud hyn, meddai wrth Pedr, “Canlyn fi.”

20. Trodd Pedr, a gwelodd y disgybl yr oedd Iesu'n ei garu yn eu canlyn—yr un oedd wedi pwyso'n ôl ar fynwes Iesu yn ystod y swper, ac wedi gofyn iddo, “Arglwydd, pwy yw'r un sy'n mynd i'th fradychu di?”

21. Pan welodd Pedr hwn, felly, gofynnodd i Iesu, “Arglwydd, beth am hwn?”

22. Atebodd Iesu ef, “Os byddaf yn dymuno iddo ef aros hyd nes y dof fi, beth yw hynny i ti? Canlyn di fi.”

23. Aeth y gair yma ar led ymhlith ei ddilynwyr, a thybiwyd nad oedd y disgybl hwnnw i farw. Ond ni ddywedodd Iesu wrtho nad oedd i farw, ond, “Os byddaf yn dymuno iddo aros hyd nes y dof fi, beth yw hynny i ti?”

24. Hwn yw'r disgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac sydd wedi ysgrifennu'r pethau hyn. Ac fe wyddom ni fod ei dystiolaeth ef yn wir.

25. Y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth Iesu. Petai pob un o'r rhain yn cael ei gofnodi, ni byddai'r byd, i'm tyb i, yn ddigon mawr i ddal y llyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 21