Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 20:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ond yr oedd Mair yn dal i sefyll y tu allan i'r bedd, yn wylo. Wrth iddi wylo felly, plygodd i edrych i mewn i'r bedd,

12. a gwelodd ddau angel mewn dillad gwyn yn eistedd lle'r oedd corff Iesu wedi bod yn gorwedd, un wrth y pen a'r llall wrth y traed.

13. Ac meddai'r rhain wrthi, “Wraig, pam yr wyt ti'n wylo?” Atebodd hwy, “Y maent wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd, ac ni wn i lle y maent wedi ei roi i orwedd.”

14. Wedi iddi ddweud hyn, troes yn ei hôl, a gwelodd Iesu'n sefyll yno, ond heb sylweddoli mai Iesu ydoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 20