Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 2:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Gwnaeth chwip o gordenni, a gyrrodd hwy oll allan o'r deml, y defaid a'r ychen hefyd. Taflodd arian mân y cyfnewidwyr ar chwâl, a bwrw eu byrddau wyneb i waered.

16. Ac meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â'r rhain oddi yma. Peidiwch â gwneud tŷ fy Nhad i yn dŷ masnach.”

17. Cofiodd ei ddisgyblion eiriau'r Ysgrythur: “Bydd sêl dros dy dŷ di yn fy ysu.”

18. Yna heriodd yr Iddewon ef a gofyn, “Pa arwydd sydd gennyt i'w ddangos i ni, yn awdurdod dros wneud y pethau hyn?”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 2