Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 19:30-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Yna, wedi iddo gymryd y gwin, dywedodd Iesu, “Gorffennwyd.” Gwyrodd ei ben, a rhoi i fyny ei ysbryd.

31. Yna, gan ei bod yn ddydd Paratoad, gofynnodd yr Iddewon i Pilat am gael torri coesau'r rhai a groeshoeliwyd, a chymryd y cyrff i lawr, rhag iddynt ddal i fod ar y groes ar y Saboth, oherwydd yr oedd y Saboth hwnnw'n uchel-ŵyl.

32. Felly daeth y milwyr, a thorri coesau'r naill a'r llall a groeshoeliwyd gyda Iesu.

33. Ond pan ddaethant at Iesu a gweld ei fod ef eisoes yn farw, ni thorasant ei goesau.

34. Ond fe drywanodd un o'r milwyr ei ystlys ef â phicell, ac ar unwaith dyma waed a dŵr yn llifo allan.

35. Y mae'r un a welodd y peth wedi dwyn tystiolaeth i hyn, ac y mae ei dystiolaeth ef yn wir. Y mae hwnnw'n gwybod ei fod yn dweud y gwir, a gallwch chwithau felly gredu.

36. Digwyddodd hyn er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: “Ni thorrir asgwrn ohono.”

37. Ac y mae'r Ysgrythur hefyd yn dweud mewn lle arall: “Edrychant ar yr hwn a drywanwyd ganddynt.”

38. Ar ôl hyn, gofynnodd Joseff o Arimathea ganiatâd gan Pilat i gymryd corff Iesu i lawr. Yr oedd Joseff yn ddisgybl i Iesu, ond yn ddisgybl cudd, gan fod ofn yr Iddewon arno. Rhoddodd Pilat ganiatâd, ac felly aeth Joseff i gymryd y corff i lawr.

39. Aeth Nicodemus hefyd, y dyn oedd wedi dod at Iesu y tro cyntaf liw nos, a daeth ef â thua chan mesur o fyrr ac aloes yn gymysg.

40. Cymerasant gorff Iesu, a'i rwymo, ynghyd â'r peraroglau, mewn llieiniau, yn unol ag arferion claddu'r Iddewon.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 19