Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 19:18-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yno croeshoeliasant ef, a dau arall gydag ef, un ar bob ochr a Iesu yn y canol.

19. Ysgrifennodd Pilat deitl, a'i osod ar y groes; dyma'r hyn a ysgrifennwyd: “Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon.”

20. Darllenodd llawer o'r Iddewon y teitl hwn, oherwydd yr oedd y fan lle croeshoeliwyd Iesu yn agos i'r ddinas. Yr oedd y teitl wedi ei ysgrifennu yn iaith yr Iddewon, ac mewn Lladin a Groeg.

21. Yna meddai prif offeiriaid yr Iddewon wrth Pilat, “Paid ag ysgrifennu, ‘Brenin yr Iddewon’, ond yn hytrach, ‘Dywedodd ef, “Brenin yr Iddewon wyf fi.” ’ ”

22. Atebodd Pilat, “Yr hyn a ysgrifennais a ysgrifennais.”

23. Wedi iddynt groeshoelio Iesu, cymerodd y milwyr ei ddillad ef a'u rhannu'n bedair rhan, un i bob milwr. Cymerasant ei grys hefyd; yr oedd hwn yn ddiwnïad, wedi ei weu o'r pen yn un darn.

24. “Peidiwn a'i rwygo ef,” meddai'r milwyr wrth ei gilydd, “gadewch inni fwrw coelbren amdano, i benderfynu pwy gaiff ef.” Felly cyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud:“Rhanasant fy nillad yn eu mysg,a bwrw coelbren ar fy ngwisg.”Felly y gwnaeth y milwyr.

25. Ond yn ymyl croes Iesu yr oedd ei fam ef yn sefyll gyda'i chwaer, Mair gwraig Clopas, a Mair Magdalen.

26. Pan welodd Iesu ei fam, felly, a'r disgybl yr oedd yn ei garu yn sefyll yn ei hymyl, meddai wrth ei fam, “Wraig, dyma dy fab di.”

27. Yna dywedodd wrth y disgybl, “Dyma dy fam di.” Ac o'r awr honno, cymerodd y disgybl hi i mewn i'w gartref.

28. Ar ôl hyn yr oedd Iesu'n gwybod bod pob peth bellach wedi ei orffen, ac er mwyn i'r Ysgrythur gael ei chyflawni dywedodd, “Y mae arnaf syched.”

29. Yr oedd llestr ar lawr yno, yn llawn o win sur, a dyma hwy'n dodi ysbwng, wedi ei lenwi â'r gwin yma, ar ddarn o isop, ac yn ei godi at ei wefusau.

30. Yna, wedi iddo gymryd y gwin, dywedodd Iesu, “Gorffennwyd.” Gwyrodd ei ben, a rhoi i fyny ei ysbryd.

31. Yna, gan ei bod yn ddydd Paratoad, gofynnodd yr Iddewon i Pilat am gael torri coesau'r rhai a groeshoeliwyd, a chymryd y cyrff i lawr, rhag iddynt ddal i fod ar y groes ar y Saboth, oherwydd yr oedd y Saboth hwnnw'n uchel-ŵyl.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 19