Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 18:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. ond safodd Pedr wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall, yr un oedd yn adnabyddus i'r archoffeiriad, allan a siarad â'r forwyn oedd yn cadw'r drws, a daeth â Pedr i mewn.

17. A dyma'r forwyn oedd yn cadw'r drws yn dweud wrth Pedr, “Tybed a wyt tithau'n un o ddisgyblion y dyn yma?” “Nac ydwyf,” atebodd yntau.

18. A chan ei bod yn oer, yr oedd y gweision a'r swyddogion wedi gwneud tân golosg, ac yr oeddent yn sefyll yn ymdwymo wrtho. Ac yr oedd Pedr yntau yn sefyll gyda hwy yn ymdwymo.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 18