Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 17:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, cododd Iesu ei lygaid i'r nef a dywedodd: “O Dad, y mae'r awr wedi dod. Gogonedda dy Fab, er mwyn i'r Mab dy ogoneddu di.

2. Oherwydd rhoddaist iddo ef awdurdod ar bob un, awdurdod i roi bywyd tragwyddol i bawb yr wyt ti wedi eu rhoi iddo ef.

3. A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.

4. Yr wyf fi wedi dy ogoneddu ar y ddaear trwy orffen y gwaith a roddaist imi i'w wneud.

5. Yn awr, O Dad, gogonedda di fyfi ger dy fron dy hun â'r gogoniant oedd i mi ger dy fron cyn bod y byd.

6. “Yr wyf wedi amlygu dy enw i'r rhai a roddaist imi allan o'r byd. Eiddot ti oeddent, ac fe'u rhoddaist i mi. Y maent wedi cadw dy air di.

7. Y maent yn gwybod yn awr mai oddi wrthyt ti y mae popeth a roddaist i mi.

8. Oherwydd yr wyf wedi rhoi iddynt hwy y geiriau a roddaist ti i mi, a hwythau wedi eu derbyn, a chanfod mewn gwirionedd mai oddi wrthyt ti y deuthum, a chredu mai ti a'm hanfonodd i.

9. Drostynt hwy yr wyf fi'n gweddïo. Nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist imi, oherwydd eiddot ti ydynt.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 17