Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 14:21-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Pwy bynnag y mae fy ngorchmynion i ganddo, ac sy'n eu cadw hwy, yw'r un sy'n fy ngharu i. A'r un sy'n fy ngharu i, fe'i cerir gan fy Nhad, a byddaf finnau yn ei garu, ac yn f'amlygu fy hun iddo.”

22. Meddai Jwdas wrtho (nid Jwdas Iscariot), “Arglwydd, beth sydd wedi digwydd i beri dy fod yn mynd i'th amlygu dy hun i ni, ac nid i'r byd?”

23. Atebodd Iesu ef: “Os yw rhywun yn fy ngharu, bydd yn cadw fy ngair i, a bydd fy Nhad yn ei garu, ac fe ddown ato a gwneud ein trigfa gydag ef.

24. Nid yw'r sawl nad yw'n fy ngharu i yn cadw fy ngeiriau i. A'r gair hwn yr ydych chwi yn ei glywed, nid fy ngair i ydyw, ond gair y Tad a'm hanfonodd i.

25. “Yr wyf wedi dweud hyn wrthych tra wyf yn aros gyda chwi.

26. Ond bydd yr Eiriolwr, yr Ysbryd Glân, a anfona'r Tad yn fy enw i, yn dysgu popeth ichwi, ac yn dwyn ar gof ichwi y cwbl a ddywedais i wrthych.

27. Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni.

28. Clywsoch beth a ddywedais i wrthych, ‘Yr wyf fi yn ymadael â chwi, ac fe ddof atoch chwi.’ Pe baech yn fy ngharu i, byddech yn llawenhau fy mod yn mynd at y Tad, oherwydd y mae'r Tad yn fwy na mi.

29. Yr wyf fi wedi dweud wrthych yn awr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn ichwi gredu pan ddigwydd.

30. Ni byddaf yn siarad llawer gyda chwi eto, oherwydd y mae tywysog y byd hwn yn dod. Nid oes ganddo ddim gafael arnaf fi,

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 14