Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 11:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Lasarus yn wael. Yr oedd yn byw ym Methania, pentref Mair a'i chwaer Martha.

2. Mair oedd y ferch a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, a sychu ei draed â'i gwallt; a'i brawd hi, Lasarus, oedd yn wael.

3. Anfonodd y chwiorydd, felly, neges at Iesu: “Y mae dy gyfaill, syr, yma'n wael.”

4. Pan glywodd Iesu, meddai, “Nid yw'r gwaeledd hwn i fod yn angau i Lasarus, ond yn ogoniant i Dduw; bydd yn gyfrwng i Fab Duw gael ei ogoneddu drwyddo.”

5. Yn awr yr oedd Iesu'n caru Martha a'i chwaer a Lasarus.

6. Ac wedi clywed ei fod ef yn wael, arhosodd am ddau ddiwrnod yn y fan lle'r oedd.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 11