Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 1:31-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond deuthum i yn bedyddio â dŵr er mwyn hyn, iddo ef gael ei amlygu i Israel.”

32. A thystiodd Ioan fel hyn: “Gwelais yr Ysbryd yn disgyn o'r nef fel colomen, ac fe arhosodd arno ef.

33. Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond yr un a'm hanfonodd i fedyddio â dŵr, dywedodd ef wrthyf, ‘Pwy bynnag y gweli di'r Ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwn yw'r un sy'n bedyddio â'r Ysbryd Glân.’

34. Yr wyf finnau wedi gweld ac wedi dwyn tystiolaeth mai Mab Duw yw hwn.”

35. Trannoeth yr oedd Ioan yn sefyll eto gyda dau o'i ddisgyblion,

36. ac wrth wylio Iesu'n cerdded heibio meddai, “Dyma Oen Duw!”

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 1