Hen Destament

Testament Newydd

Ioan 1:27-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. yr un sy'n dod ar f'ôl i, nad wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandal.”

28. Digwyddodd hyn ym Methania, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle'r oedd Ioan yn bedyddio.

29. Trannoeth gwelodd Iesu'n dod tuag ato, a dywedodd, “Dyma Oen Duw, sy'n cymryd ymaith bechod y byd!

30. Hwn yw'r un y dywedais i amdano, ‘Ar f'ôl i y mae gŵr yn dod sydd wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.’

31. Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond deuthum i yn bedyddio â dŵr er mwyn hyn, iddo ef gael ei amlygu i Israel.”

32. A thystiodd Ioan fel hyn: “Gwelais yr Ysbryd yn disgyn o'r nef fel colomen, ac fe arhosodd arno ef.

33. Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond yr un a'm hanfonodd i fedyddio â dŵr, dywedodd ef wrthyf, ‘Pwy bynnag y gweli di'r Ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwn yw'r un sy'n bedyddio â'r Ysbryd Glân.’

34. Yr wyf finnau wedi gweld ac wedi dwyn tystiolaeth mai Mab Duw yw hwn.”

35. Trannoeth yr oedd Ioan yn sefyll eto gyda dau o'i ddisgyblion,

36. ac wrth wylio Iesu'n cerdded heibio meddai, “Dyma Oen Duw!”

37. Clywodd ei ddau ddisgybl ef yn dweud hyn, ac aethant i ganlyn Iesu.

38. Troes Iesu, ac wrth eu gweld yn canlyn, dywedodd wrthynt, “Beth yr ydych yn ei geisio?” Dywedasant wrtho, “Rabbi,” (ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Athro) “ble'r wyt ti'n aros?”

39. Dywedodd wrthynt, “Dewch i weld.” Felly aethant a gweld lle'r oedd yn aros; a'r diwrnod hwnnw arosasant gydag ef. Yr oedd hi tua phedwar o'r gloch y prynhawn.

40. Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a aeth i ganlyn Iesu ar ôl gwrando ar Ioan.

Darllenwch bennod gyflawn Ioan 1