18. Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; yr unig Un, ac yntau'n Dduw, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a'i gwnaeth yn hysbys.
19. Dyma dystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid ato i ofyn iddo, “Pwy wyt ti?”
20. Addefodd ac ni wadodd, a dyma a addefodd: “Nid myfi yw'r Meseia.”
21. Yna gofynasant iddo: “Beth, ynteu? Ai ti yw Elias?” “Nage,” meddai. “Ai ti yw'r Proffwyd?” “Nage,” atebodd eto.
22. Ar hynny dywedasant wrtho, “Pwy wyt ti? Rhaid i ni roi ateb i'r rhai a'n hanfonodd ni. Beth sydd gennyt i'w ddweud amdanat dy hun?”
23. “Myfi,” meddai, “yw“ ‘Llais un yn galw yn yr anialwch:“Unionwch ffordd yr Arglwydd” ’—“fel y dywedodd y proffwyd Eseia.”
24. Yr oeddent wedi eu hanfon gan y Phariseaid,
25. a holasant ef a gofyn iddo, “Pam, ynteu, yr wyt yn bedyddio, os nad wyt ti na'r Meseia nac Elias na'r Proffwyd?”
26. Atebodd Ioan hwy: “Yr wyf fi'n bedyddio â dŵr, ond y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych chwi'n ei adnabod,
27. yr un sy'n dod ar f'ôl i, nad wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandal.”
28. Digwyddodd hyn ym Methania, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle'r oedd Ioan yn bedyddio.
29. Trannoeth gwelodd Iesu'n dod tuag ato, a dywedodd, “Dyma Oen Duw, sy'n cymryd ymaith bechod y byd!
30. Hwn yw'r un y dywedais i amdano, ‘Ar f'ôl i y mae gŵr yn dod sydd wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.’
31. Nid oeddwn innau'n ei adnabod, ond deuthum i yn bedyddio â dŵr er mwyn hyn, iddo ef gael ei amlygu i Israel.”