Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 13:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Bydded i Dduw tangnefedd, yr hwn a ddug yn ôl oddi wrth y meirw ein Harglwydd Iesu, Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragwyddol,

21. eich cymhwyso â phob daioni, er mwyn ichwi wneud ei ewyllys ef; a bydded iddo lunio ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo, trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.

22. Yr wyf yn deisyf arnoch chwi, gyfeillion, oddef y gair hwn o anogaeth, oblegid yn fyr yr ysgrifennais atoch.

23. Y newydd yw fod ein brawd Timotheus wedi ei ryddhau, ac os daw mewn pryd, caf eich gweld gydag ef.

24. Cyfarchwch eich holl arweinwyr, a'r holl saint. Y mae'r cyfeillion o'r Eidal yn eich cyfarch.

25. Gras fyddo gyda chwi oll!

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 13