Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 11:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Trwy ffydd y cadwodd ef y Pasg, a thaenellu'r gwaed, rhag i'r Dinistrydd gyffwrdd â meibion cyntafanedig yr Israeliaid.

29. Trwy ffydd yr aethant drwy'r Môr Coch fel pe ar dir sych. Pan geisiodd yr Eifftiaid wneud hynny, fe'u boddwyd.

30. Trwy ffydd y syrthiodd muriau Jericho ar ôl eu hamgylchu am saith diwrnod.

31. Trwy ffydd, ni chafodd Rahab, y butain, ei difetha gyda'r rhai oedd wedi gwrthod credu, oherwydd iddi groesawu'r ysbiwyr yn heddychlon.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 11