Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 10:34-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Oherwydd cyd-ddioddefasoch â'r carcharorion, a derbyniasoch mewn llawenydd ysbeilio'ch meddiannau, gan wybod fod meddiant rhagorach ac arhosol yn eiddo i chwi.

35. Peidiwch felly â thaflu eich hyder i ffwrdd, gan fod gwobr fawr yn perthyn iddo.

36. Y mae angen dyfalbarhad arnoch i gyflawni ewyllys Duw a chymryd meddiant o'r hyn a addawyd.

37. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur:“Ymhen ennyd, ennyd bach,fe ddaw yr hwn sydd i ddod, a heb oedi;

38. ond fe gaiff fy un cyfiawn i fyw trwy ffydd,ac os cilia'n ôl,ni bydd fy enaid yn ymhyfrydu ynddo.”

39. Eithr nid pobl y cilio'n ôl i ddistryw ydym ni, ond pobl â ffydd sy'n mynd i feddiannu bywyd.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 10