Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 10:2-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Petasai hynny'n bosibl, oni fuasent wedi peidio â chael eu hoffrymu, gan na fuasai mwyach ymwybyddiaeth o bechodau gan addolwyr a oedd wedi eu puro un waith am byth?

3. Ond y mae yn yr aberthau goffâd bob blwyddyn am bechodau;

4. oherwydd y mae'n amhosibl i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau.

5. Dyna pam y mae ef, wrth ddod i'r byd, yn dweud:“Ni ddymunaist aberth ac offrwm,ond paratoaist gorff i mi.

6. Poethoffrymau ac aberth dros bechod,nid ymhyfrydaist ynddynt.

7. Yna dywedais,‘Dyma fi wedi dod—y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf—i wneud dy ewyllys di, O Dduw.’ ”

8. Y mae'n dweud, i ddechrau, “Aberthau ac offrymau, a phoethoffrymau ac aberth dros bechod, ni ddymunaist mohonynt ac nid ymhyfrydaist ynddynt.” Dyma'r union bethau a offrymir yn ôl y Gyfraith.

9. Yna dywedodd, “Dyma fi wedi dod i wneud dy ewyllys di.” Y mae'n diddymu'r peth cyntaf er mwyn sefydlu'r ail.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 10