Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 10:10-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Yn unol â'r ewyllys honno yr ydym wedi ein sancteiddio, trwy gorff Iesu Grist sydd wedi ei offrymu un waith am byth.

11. Y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gweini, ac yn offrymu'r un aberthau dro ar ôl tro, aberthau na allant byth ddileu pechodau.

12. Ond am hwn, wedi iddo offrymu un aberth dros bechodau am byth, eisteddodd ar ddeheulaw Duw,

13. yn disgwyl bellach hyd oni osodir ei elynion yn droedfainc i'w draed.

14. Oherwydd ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai a sancteiddir.

15. Ac y mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystio wrthym; oherwydd wedi iddo ddweud:

16. “Dyma'r cyfamod a wnaf â hwyar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd;rhof fy nghyfreithiau yn eu calon,ac ysgrifennaf hwy ar eu meddwl”,

17. y mae'n ychwanegu:“A'u pechodau a'u drwgweithredoedd,ni chofiaf mohonynt byth mwy.”

18. Yn awr, lle y ceir maddeuant am y pethau hyn, nid oes angen offrwm dros bechod mwyach.

19. Felly, gyfeillion, gan fod gennym hyder i fynd i mewn i'r cysegr drwy waed Iesu,

20. ar hyd ffordd newydd a byw y mae ef wedi ei hagor inni drwy'r llen, hynny yw, trwy ei gnawd ef;

21. a chan fod gennym offeiriad mawr ar dŷ Dduw,

22. gadewch inni nesáu â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, a'n calonnau wedi eu taenellu'n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a'n cyrff wedi eu golchi â dŵr glân.

23. Gadewch inni ddal yn ddiwyro at gyffes ein gobaith, oherwydd y mae'r hwn a roddodd yr addewid yn ffyddlon.

24. Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da,

25. heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos.

26. Oherwydd os ydym yn dal i bechu'n fwriadol ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau i'w gael mwyach;

27. dim ond rhyw ddisgwyl brawychus am farn, ac angerdd tân a fydd yn difa'r gwrthwynebwyr.

28. Os bydd unrhyw un wedi diystyru Cyfraith Moses, caiff ei ladd yn ddidrugaredd ar air dau neu dri o dystion.

29. Ystyriwch gymaint llymach yw'r gosb a fernir yn haeddiant i'r hwn sydd wedi mathru Mab Duw, ac wedi cyfrif yn halogedig waed y cyfamod y cafodd ei sancteiddio drwyddo, ac wedi difenwi Ysbryd grasol Duw.

30. Oherwydd fe wyddom pwy a ddywedodd:“Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl”;ac eto:“Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.”

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 10