Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 6:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gyfeillion, os caiff rhywun ei ddal mewn rhyw drosedd, eich gwaith chwi, y rhai ysbrydol, yw ei adfer mewn ysbryd addfwyn. Ond edrych atat dy hun, rhag ofn i tithau gael dy demtio.

2. Cariwch feichiau eich gilydd, ac felly fe gyflawnwch Gyfraith Crist.

3. Oherwydd, os yw rhywun yn tybio ei fod yn rhywbeth, ac yntau yn ddim, ei dwyllo ei hun y mae.

4. Y mae pob un i farnu ei waith ei hun, ac yna fe gaiff le i ymffrostio o'i ystyried ei hun yn unig, ac nid neb arall.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 6