Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 4:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist.

8. Am hynny y mae'r Ysgrythur yn dweud:“Esgynnodd i'r uchelder, gan arwain ei garcharorion yn gaeth;rhoddodd roddion i bobl.”

9. Beth yw ystyr “esgynnodd”? Onid yw'n golygu ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear?

10. Yr un a ddisgynnodd yw'r un a esgynnodd hefyd ymhell uwchlaw'r nefoedd i gyd, i lenwi'r holl greadigaeth.

11. A dyma'i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon,

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 4