Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 4:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr wyf fi, felly, sy'n garcharor er mwyn yr Arglwydd, yn eich annog i fyw yn deilwng o'r alwad a gawsoch.

2. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad.

3. Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi.

4. Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn eich galwad;

5. un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,

6. un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.

7. Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist.

8. Am hynny y mae'r Ysgrythur yn dweud:“Esgynnodd i'r uchelder, gan arwain ei garcharorion yn gaeth;rhoddodd roddion i bobl.”

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 4