1. Yr wyf fi, felly, sy'n garcharor er mwyn yr Arglwydd, yn eich annog i fyw yn deilwng o'r alwad a gawsoch.
2. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad.
3. Ymrowch i gadw, â rhwymyn tangnefedd, yr undod y mae'r Ysbryd yn ei roi.
4. Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn eich galwad;
5. un Arglwydd, un ffydd, un bedydd,
6. un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb.
7. Ond i bob un ohonom rhoddwyd gras, ei ran o rodd Crist.
8. Am hynny y mae'r Ysgrythur yn dweud:“Esgynnodd i'r uchelder, gan arwain ei garcharorion yn gaeth;rhoddodd roddion i bobl.”
9. Beth yw ystyr “esgynnodd”? Onid yw'n golygu ei fod wedi disgyn hefyd i barthau isaf y ddaear?
10. Yr un a ddisgynnodd yw'r un a esgynnodd hefyd ymhell uwchlaw'r nefoedd i gyd, i lenwi'r holl greadigaeth.
11. A dyma'i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon,
12. i gymhwyso'r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist.