Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Gweinidogaeth Paul i'r Cenhedloedd

1. Oherwydd hyn, yr wyf fi, Paul, carcharor Crist Iesu er eich mwyn chwi'r Cenhedloedd, yn offrymu fy ngweddi.

2. Y mae'n rhaid eich bod wedi clywed am gynllun gras Duw, y gras sydd wedi ei roi i mi er eich lles chwi:

3. sef i'r dirgelwch gael ei hysbysu i mi trwy ddatguddiad. Yr wyf eisoes wedi ysgrifennu'n fyr am hyn,

4. ac o'i ddarllen gallwch ddeall fy nirnadaeth o ddirgelwch Crist.

5. Yn y cenedlaethau gynt, ni chafodd y dirgelwch hwn mo'i hysbysu i blant dynion, fel y mae yn awr wedi ei ddatguddio gan Ysbryd Duw i'w apostolion sanctaidd a'i broffwydi.

6. Dyma'r dirgelwch: bod y Cenhedloedd, ynghyd â'r Iddewon, yn gydetifeddion, yn gydaelodau o'r corff, ac yn gydgyfranogion o'r addewid yng Nghrist Iesu trwy'r Efengyl.

7. Dyma'r Efengyl y deuthum i yn weinidog iddi yn ôl rhodd gras Duw, a roddwyd i mi trwy weithrediad ei allu ef.

8. I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y rhodd raslon hon, i bregethu i'r Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist,

9. ac i ddwyn i'r golau gynllun y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd yn Nuw, Creawdwr pob peth,

10. er mwyn i ysblander amryfal ddoethineb Duw gael ei hysbysu yn awr, trwy'r eglwys, i'r tywysogaethau a'r awdurdodau yn y nefolion leoedd.

11. Y mae hyn yn unol â'r arfaeth dragwyddol a gyflawnodd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

12. Ynddo ef, a thrwy ffydd ynddo, yr ydym yn cael dod at Dduw yn eofn a hyderus.

13. Yr wyf yn erfyn, felly, ar ichwi beidio â digalonni o achos fy nioddefiadau drosoch; hwy, yn wir, yw eich gogoniant chwi.

Gwybod Cariad Crist

14. Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad,

15. yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho,

16. ac yn gweddïo ar iddo ganiatáu i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy'r Ysbryd,

17. ac ar i Grist breswylio yn eich calonnau drwy ffydd.

18. Boed i chwi, sydd â chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â'r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist,

19. a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw.

20. Iddo ef, sydd â'r gallu ganddo i wneud yn anhraethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na'i ddychmygu, trwy'r gallu sydd ar waith ynom ni,

21. iddo ef y bo'r gogoniant yn yr eglwys ac yng Nghrist Iesu, o genhedlaeth i genhedlaeth, byth bythoedd! Amen.