Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 1:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, at y saint sydd yn Effesus, yn ffyddlon yng Nghrist Iesu.

2. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.

3. Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Y mae wedi'n bendithio ni yng Nghrist â phob bendith ysbrydol yn y nefolion leoedd.

4. Cyn seilio'r byd, fe'n dewisodd yng Nghrist i fod yn sanctaidd ac yn ddi-fai ger ei fron mewn cariad.

5. O wirfodd ei ewyllys fe'n rhagordeiniodd i gael ein mabwysiadu yn blant iddo'i hun trwy Iesu Grist,

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 1