Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 9:5-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Gorchmynnwyd iddynt beidio â'u lladd, ond eu poenydio am bum mis; a'u poenedigaeth hwy oedd fel poenedigaeth ysgorpion yn brathu rhywun.

6. Yn y dyddiau hynny bydd pobl yn chwilio am farwolaeth, ond ni ddônt o hyd iddi, yn chwenychu marw, ond bydd marwolaeth yn ffoi rhagddynt.

7. Yn yr olwg arnynt yr oedd y locustiaid yn debyg i geffylau wedi eu paratoi i ryfel. Ar eu pennau yr oedd megis coronau euraid, ac yr oedd eu hwynebau fel wynebau dynol,

8. a gwallt ganddynt fel gwallt merched, a'u dannedd fel dannedd llewod.

9. Ac yr oedd eu dwyfron fel dwyfronneg o haearn, a sŵn eu hadenydd fel sŵn llawer o gerbydau rhyfel, a'u ceffylau yn carlamu i'r frwydr.

10. Yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, a cholynnau, ac yn eu cynffonnau yr oedd eu gallu i niweidio pobl am bum mis.

11. Yn frenin arnynt yr oedd angel y dyfnder; ei enw mewn Hebraeg yw Abadon, ac yn yr iaith Roeg gelwir ef Apolyon.

12. Aeth y gwae cyntaf heibio; wele, daw eto ddau wae ar ôl hyn.

13. Seiniodd y chweched angel ei utgorn. Yna clywais lais o blith pedwar corn yr allor aur oedd gerbron Duw,

14. yn dweud wrth y chweched angel, yr un â'r utgorn ganddo: “Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd wedi eu rhwymo ar lan yr afon fawr, afon Ewffrates.”

15. Rhyddhawyd y pedwar angel, a oedd wedi eu dal yn barod ar gyfer yr awr a'r dydd a'r mis a'r flwyddyn, i ladd traean o'r ddynolryw.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 9