Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 9:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Aeth y gwae cyntaf heibio; wele, daw eto ddau wae ar ôl hyn.

13. Seiniodd y chweched angel ei utgorn. Yna clywais lais o blith pedwar corn yr allor aur oedd gerbron Duw,

14. yn dweud wrth y chweched angel, yr un â'r utgorn ganddo: “Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd wedi eu rhwymo ar lan yr afon fawr, afon Ewffrates.”

15. Rhyddhawyd y pedwar angel, a oedd wedi eu dal yn barod ar gyfer yr awr a'r dydd a'r mis a'r flwyddyn, i ladd traean o'r ddynolryw.

16. Yr oedd lluoedd eu gwŷr meirch yn rhifo dau gan miliwn; clywais eu rhif hwy.

17. Yn fy ngweledigaeth dyma'r olwg a welais ar y ceffylau a'u marchogion: yr oedd eu dwyfronneg yn fflamgoch a glas a melyn, a'u ceffylau â phennau ganddynt fel llewod, a thân a mwg a brwmstan yn dod allan o'u safnau.

18. Gan y tri phla hyn fe laddwyd traean o'r ddynolryw, hynny yw, gan y tân a'r mwg a'r brwmstan oedd yn dod allan o'u safnau.

19. Yr oedd gallu'r ceffylau yn eu safnau ac yn eu cynffonnau, oherwydd yr oedd gan eu cynffonnau bennau, fel seirff, ac â'r rhain yr oeddent yn peri niwed.

20. Ac am y gweddill o'r ddynolryw, nas lladdwyd gan y plâu hyn, ni bu'n edifar ganddynt am yr hyn a luniodd eu dwylo; ac ni pheidiasant ag addoli'r cythreuliaid a'r delwau aur ac arian a phres a cherrig a phren, pethau na allant na gweld na chlywed na cherdded.

21. Ni bu'n edifar ganddynt chwaith am na'u llofruddiaeth na'u dewiniaeth, na'u hanfoesoldeb rhywiol na'u lladrad.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 9