Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 7:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Ar ôl hyn edrychais, ac wele dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a'r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, a phalmwydd yn eu dwylo.

10. Yr oeddent yn gweiddi â llais uchel:“I'n Duw ni, sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen y perthyn y waredigaeth!”

11. Yr oedd yr holl angylion yn sefyll o amgylch yr orsedd a'r henuriaid a'r pedwar creadur byw, a syrthiasant ar eu hwynebau gerbron yr orsedd ac addoli Duw

12. gan ddweud:“Amen. I'n Duw ni y bo'r mawla'r gogoniant a'r doethineb a'r diolcha'r anrhydedd a'r gallu a'r nerthbyth bythoedd! Amen.”

13. Gofynnodd un o'r henuriaid imi, “Y rhai hyn sydd wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, pwy ydynt ac o ble y daethant?”

14. Dywedais wrtho, “Ti sy'n gwybod, f'arglwydd.” Meddai yntau wrthyf, “Dyma'r rhai sy'n dod allan o'r gorthrymder mawr; y maent wedi golchi eu mentyll a'u cannu yng ngwaed yr Oen.

15. “Am hynny, y maent o flaen gorsedd Duw,ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei deml,a bydd yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd yn lloches iddynt.

16. Ni newynant mwy ac ni sychedant mwy,ni ddaw ar eu gwarthaf na'r haulna dim gwres,

17. oherwydd bydd yr Oen sydd yng nghanol yr orsedd yn eu bugeilio hwy,ac yn eu harwain i ffynhonnau dyfroedd bywyd,a bydd Duw yn sychu pob deigryn o'u llygaid hwy.”

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 7