5. O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio,o lwyth Reuben deuddeng mil,o lwyth Gad deuddeng mil,
6. o lwyth Aser deuddeng mil,o lwyth Nafftali deuddeng mil,o lwyth Manasse deuddeng mil,
7. o lwyth Simeon deuddeng mil,o lwyth Lefi deuddeng mil,o lwyth Issachar deuddeng mil,
8. o lwyth Sabulon deuddeng mil,o lwyth Joseff deuddeng mil,ac o lwyth Benjamin deuddeng mil wedi eu selio.
9. Ar ôl hyn edrychais, ac wele dyrfa fawr na allai neb ei rhifo, o bob cenedl a'r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd, yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen, wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, a phalmwydd yn eu dwylo.
10. Yr oeddent yn gweiddi â llais uchel:“I'n Duw ni, sy'n eistedd ar yr orsedd, ac i'r Oen y perthyn y waredigaeth!”
11. Yr oedd yr holl angylion yn sefyll o amgylch yr orsedd a'r henuriaid a'r pedwar creadur byw, a syrthiasant ar eu hwynebau gerbron yr orsedd ac addoli Duw
12. gan ddweud:“Amen. I'n Duw ni y bo'r mawla'r gogoniant a'r doethineb a'r diolcha'r anrhydedd a'r gallu a'r nerthbyth bythoedd! Amen.”
13. Gofynnodd un o'r henuriaid imi, “Y rhai hyn sydd wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, pwy ydynt ac o ble y daethant?”
14. Dywedais wrtho, “Ti sy'n gwybod, f'arglwydd.” Meddai yntau wrthyf, “Dyma'r rhai sy'n dod allan o'r gorthrymder mawr; y maent wedi golchi eu mentyll a'u cannu yng ngwaed yr Oen.