Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 22:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yna dywedodd yr angel wrthyf, “Dyma eiriau ffyddlon a gwir: y mae'r Arglwydd Dduw, sy'n ysbrydoli'r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i'w weision y pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder.

7. Ac wele, yr wyf yn dod yn fuan. Gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn.”

8. Myfi, Ioan, yw'r un a glywodd ac a welodd y pethau hyn. Ac wedi imi glywed a gweld, syrthiais wrth draed yr angel a'u dangosodd imi, i'w addoli;

9. ond meddai wrthyf, “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â'th gymrodyr y proffwydi, ac â'r rhai sy'n cadw geiriau'r llyfr hwn; addola Dduw.”

10. Dywedodd wrthyf hefyd, “Paid â gosod geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn dan sêl, oherwydd y mae'r amser yn agos.

11. Yr anghyfiawn, parhaed yn anghyfiawn, a'r aflan yn aflan; y cyfiawn, parhaed i wneud cyfiawnder, a'r sanctaidd i fod yn sanctaidd.

12. “Wele, yr wyf yn dod yn fuan, a'm gwobr gyda mi i'w rhoi i bob un yn ôl ei weithredoedd.

13. Myfi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a'r olaf, y dechrau a'r diwedd.”

14. Gwyn eu byd y rhai sy'n golchi eu mentyll er mwyn iddynt gael hawl ar bren y bywyd a mynediad trwy'r pyrth i'r ddinas.

15. Oddi allan y mae'r cŵn, y dewiniaid, y puteinwyr, y llofruddion, yr eilunaddolwyr, a phawb sy'n caru celwydd ac yn ei wneud.

16. “Yr wyf fi, Iesu, wedi anfon fy angel i dystiolaethu am y pethau hyn i chwi ar gyfer yr eglwysi. Myfi yw Gwreiddyn a Hiliogaeth Dafydd, seren ddisglair y bore.”

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 22