Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 22:18-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yr wyf fi'n rhybuddio pob un sy'n clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: os ychwanega unrhyw un ddim atynt, fe ychwanega Duw iddo yntau y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn.

19. Ac os tyn unrhyw un ddim allan o eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, fe dynn Duw ei ran yntau allan o bren y bywyd, ac o'r ddinas sanctaidd, y pethau yr ysgrifennwyd amdanynt yn y llyfr hwn.

20. Y mae'r sawl sy'n tystiolaethu i'r pethau hyn yn dweud, “Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan.” Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu!

21. Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda phawb!

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 22