Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 21:4-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Fe sych bob deigryn o'u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae'r pethau cyntaf wedi mynd heibio.”

5. Yna dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd, “Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd.” Dywedodd hefyd, “Ysgrifenna, oherwydd dyma eiriau ffyddlon a gwir.”

6. A dywedodd wrthyf, “Y mae'r cwbl ar ben! Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd. Rhoddaf fi i'r sychedig ddiod yn rhodd o ffynnon dŵr y bywyd.

7. Caiff y rhai sy'n gorchfygu etifeddu'r pethau hyn; byddaf yn Dduw iddynt, a byddant hwythau'n blant i mi.

8. Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan dân a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth.”

9. Daeth un o'r saith angel oedd â'r saith ffiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diwethaf, a siaradodd â mi. “Tyrd,” meddai, “dangosaf iti'r briodferch, gwraig yr Oen.”

10. Ac aeth â mi ymaith yn yr Ysbryd i fynydd mawr ac uchel, a dangosodd imi'r ddinas sanctaidd, Jerwsalem, yn disgyn o'r nef oddi wrth Dduw,

11. a gogoniant Duw ganddi. Yr oedd ei llewyrch fel llewyrch gem dra gwerthfawr, fel maen iasbis, yn disgleirio fel grisial.

12. Yr oedd iddi fur mawr ac uchel a deuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau deuddeg llwyth plant Israel yn ysgrifenedig ar y pyrth.

13. Yr oedd tri phorth o du'r dwyrain, tri o du'r gogledd, tri o du'r de, a thri o du'r gorllewin.

14. I fur y ddinas yr oedd deuddeg carreg sylfaen, ac arnynt enwau deuddeg apostol yr Oen.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 21