16. Yr oedd y ddinas wedi ei llunio'n betryal, ei hyd yn gyfartal â'i lled. Mesurodd ef y ddinas â'r ffon. Yr oedd yn ddwy fil, dau gant ac ugain o gilomedrau, a'i hyd a'i lled a'i huchder yn gyfartal.
17. A mesurodd ei mur. Yr oedd yn gant pedwar deg a phedwar cufydd, yn ôl y mesur dynol yr oedd yr angel yn mesur wrtho.
18. Iasbis oedd defnydd y mur, a'r ddinas ei hun yn aur pur, gloyw fel gwydr.
19. Yr oedd sylfeini mur y ddinas wedi eu haddurno â phob math o emau gwerthfawr: iasbis oedd y garreg sylfaen gyntaf, saffir yr ail, chalcedon y drydedd, emrallt y bedwaredd,
20. sardonyx y bumed, sardion y chweched, eurfaen y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, chrysoprasos y ddegfed, hyacinth yr unfed ar ddeg, amethyst y ddeuddegfed.
21. A deuddeg perl oedd y deuddeg porth; pob porth wedi ei wneud o un perl. Ac yr oedd heol y ddinas yn aur pur, fel gwydr tryloyw.
22. A theml ni welais ynddi, oherwydd ei theml hi yw'r Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, a'r Oen.
23. Nid oes ar y ddinas angen na'r haul na'r lleuad i dywynnu arni, oherwydd gogoniant Duw sy'n ei goleuo, a'i lamp hi yw'r Oen.
24. A bydd y cenhedloedd yn rhodio yn ei goleuni hi, a brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant i mewn iddi.
25. Byth ni chaeir ei phyrth y dydd, ac ni bydd nos yno.
26. A byddant yn dwyn i mewn iddi ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd.